SL(5)281 - Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018
Cefndir a Diben
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau technegol i Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 (OS 2011/991) i adlewyrchu darpariaethau yn Rheoliad (UE) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1760 / 2000 o ran adnabod electronig o ran anifeiliaid buchol a labelu cig eidion.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â labelu bwyd, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod labelu bwyd yn faes polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy’n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2018